Hanes y Gynghrair
O’r cofnodion
Cafwyd sawl ymgais
dros y blynyddoedd i sefydlu cynghrair a fyddai’n pontio’r bwlch
rhwng Adran 1 lled-broffesiynol Cynghrair Cymru (adran y gogledd) â
chynghreiriau Adran 3 Ynys Môn, Caernarfon a’r cylch a Dyffryn
Conwy. Ond ofer fu’r
ymweliadau niferus â’r is-gynghreiriau gan swyddogion Cynghrair
Cymru (adran y gogledd). Roedd yr
is-gynghreiriau, mae’n ymddangos, yn mwynhau bywyd yn bysgod mawr mewn
pwll bach ac yn amharod i fentro i gynghrair newydd pryd y byddent yn rhwym o
wynebu costau teithio sylweddol uwch.
Croeso llugoer felly gafodd y gynghrair newydd arfaethedig gan
bwyllgorau rheoli yr is-gynghreiriau gan nad oeddent am weld eu clybiau
traddodiadol yn gadael.
23 Mehefin, 1983
Gwnaethpwyd ymdrech
unwaith yn rhagor i gael y maen i’r wal. Ffurfiwyd pwyllgor llywio gan Gynghrair
Cymru (adran y gogledd) ac aethpwyd ati i gyfarfod â chynrychiolwyr yr
is-gynghreiriau ynghyd â swyddogion y clybiau hynny oedd wedi mynegi
diddordeb. Y nod oedd
“ystyried ffurfio Cynghrair Gwynedd ar gyfer clybiau yn ardaloedd Ynys
Môn, Caernarfon a’r cylch a Dyffryn Conwy”. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yng nghlwb
cymdeithasol Menai Bridge Tigers yn Wood Street Porthaethwy; y cadeirydd oedd
Mr O. Glyn Roberts, Blaenau Ffestiniog, is-gadeirydd Cynghrair Cymru (adran y
gogledd). Mynegodd 8 clwb
ddiddordeb mewn ffurfio cynghrair o’r fath ac fe gytunwyd yn unfrydol i
sefydlu Cynghrair pêl-droed Gwynedd ar gyfer tymor 1983-84, gyda’r
ffi aelodaeth yn £30.
Penodwyd Robert Owen,
Llanddoged, Cadeirydd Cynghrair Dyffryn Conwy yn gadeirydd y gynghrair
newydd. Gofynwyd iddo alw cyfarfod
pellach, a hynny cyn gynted ag y bo
modd, er mwyn penodi swyddogion ynghyd ag ethol Pwyllgor Rheoli’r
Gynghrair.
19 Gorffennaf, 1983
Cynhaliwyd cyfarfod
cynta y pwyllgor rheoli yn ystafell y cyfarwyddwyr clwb pêl-droed Dinas
Bangor, pryd y pendowyd y swyddogion a ganlyn:
Ysgrifennydd Mygedol
– R. Brian Jones, Penygroes
Trysorydd Mygedol
– J.O.Hughes, Llangefni
Ysgrifennydd Cofrestru
Mygedol – Robert Edwards, Llangefni
Ysgrifennydd Penodi
Dyfarnwyr Mygedol – Gwyn Pierce Owen, Pentraeth
Yn ogystal etholwyd y
canlynol yn aelodau y pwyllgor rheoli:
James Foulkes, Talwrn;
Eric Roberts, Caeathro; William Evans, Llandudno, Cyril Kitching, Biwmares;
Alun Roberts, Penrhyndeudraeth, Emyr V. Hughes, Y Felinheli.
Cafwyd cadarnhad bod y
clybiau a ganlyn yn aelodau o’r gynghrair newydd ac eu bod oll wedi
talu’r ffi aelodaeth o £30:
Benllech, Bethesda,
Conwy Unedig, Amaturiaid Llandudno, Llanfairpwll, Teigrod Porthaethwy, Porthmadog,
Y Felinheli.
Cytunwyd bod Cwpan
Gwynedd i’w threfnu fel cystadleuaeth ychwanegol – dim ffi
ychwanegol i’w dalu.
Rhoddwyd sêl
bendith ar reolau’r Gynghrair a’r Cwpanau, yn unol ag argymhelliad
y ‘Pwyllgor Llywio’.
Penderfynwyd yn
ogystal mai ffî y dyfarnwyr fyddai £3-50 y gêm, ynghyd
â threuliau teithio o 9c y filltir, gydag uchafswm o £7.
Cyflwynwyd tlws gan
Eric Roberts i’w dyfarnu i Chwaraewr Amlyca’r tymor yng Nghynghrair
Gwynedd, yn ôl pleidlais ymhlith y clybiau sy’n aelodau o’r
gynghrair.
1 Tachwedd, 1983 - Pwyllgor Rheoli a gynhaliwyd yn CPD Dinas
Bangor
Etholwyd Mr Trevor
Owen, Bangor yn Llywydd; cyflwynodd Mr Owen dlws ar gyfer cystadleuaeth
flynyddol ‘Cwpan y Gynghrair’.
Etholwyd Mr James
Foulkes, Talwrn yn is-gadeirydd.
Derbyniwyd
ymddiswyddiad CPD Porthmadog gyda’r clwb heb chwarae yr un gêm;
prinder chwaraewyr oedd y rheswm a gynigiwyd am eu penderfyniad.
Derbyniwyd Coleg
Prifysgol Gogledd Cymru yn aelod, i gymryd lle Porthmadog.
Derbyniwyd gwahoddiad
gan Gymdeithas Pel-droed Arfordir Gogledd Cymru (NWCFA) i roi tîm yn
cynrychioli’r gynghrair i gystadlu mewn twrnament rhyng-gynghreiriol am
Darian Tucker. Penodwyd Mr Bryan
Owen, Llanfairpwll yn reolwr ar dîm Cynghrair Gwynedd a gorchmynwyd iddo
ddewis carfan o 15 chwaraewr ynghyd ag ymgeleddwr ar gyfer y gystadleuaeth
i’w chynnal yn Llandudno.
Mabwysiadwyd eryr,
oddi ar arfbais Owain Gwynedd, yn arwyddlun Cynghrair Gwynedd.
Cyfranwyd Cwpan
Gwynedd i’r pwyllgor rheoli gan Mr Owain Roberts ar ran Bragwyr John
Smith Tadcaster.
Cyfranwyd Tarian Eryri
gan y caderiydd Mr Robert Owen ar gyfer cystadleuaeth flynyddol arall ymhlith
clybiau’r gynghrair.
Cyfranwyd tarian gan
Birmingham Garage, Llanrwst i’w chyflwyno ar ddiwedd tymor i’r prif
sgoriwr yng nghystadlaethau Cynghrair Gwynedd.
Ebrill 11, 1984 – pwyllgor rheoli yn CPD Dinas Bangor
Llongyfarchwyd Mr
Brian Owen a’r tîm ar ennill cystadleuaeth rhyng-gynghreiriol
Tarian Tucker yn Llandudno.
Mehefin 8, 1984 -
Noson Wobrwyo a gynhaliwyd yn CPD Dinas Bangor
Cyflwynwyd tlysau i enillwyr
y Gynghrair a’r cwpanau, a hefyd i dîm llwyddiannus Tarian Tucker
Mehefin 13, 1984 - Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol cynta’r
Gynghrair ym Mhlas
Menai, ger Caernarfon
Cyfeiriodd yr
ysgrifennydd yn ei adroddiad at dymor cynta llwyddiannus, gyda’r gemau
oll wedi eu cwblhau yn unol â’r trefniadau. Y pencampwyr cynta oedd CPD Y Felinheli,
a gipiodd y teitl o drwch blewyn, gan mai o un gôl yn unig yr oeddent yn
rhagori ar yr ail glwb, Llanfairpwll.
Clwb Ch Ennill Cyf Colli Goliau
Pwyntiau
Y FELINHELI
14 9 4 1
46 – 11 22
LLANFAIRPWLL 14 8 6 0
42 – 8 22
Cynhaliwyd rownd
derfynol Tarian Eryri ar gae CPD Dinas Bangor ar Ffordd Farrar gyda
Llanfairpwll yn curo Benllech a’r Cylch 3-1.
Cafodd rownd derfynol
Cwpan Gwynedd hefyd ei chynnal ar Ffordd Farrar. Conwy Unedig sgoriodd unig gol
y gêm, a hynny yn eiliadau ola amser ychwanegol i gipio’r cwpan dan
drwynau Bethesda.
Gwrthodwyd cais clwb
Machno i ymaelodi â’r gynghrair. Roedd is-bwyllgor wedi ymweld
â Phenmachno ac yn ôl eu hadroddiad nid oedd y cyfleusterau newid
na’r maes chwarae o safon derbyniol.
Gorffennaf 24, 1984 – pwyllgor rheoli yn CPD Dinas
Bangor
Amaturiaid Llandudno
yn ymddiswyddo o’r gynghrair
Ysgrifennydd y gynghrair
yn datgan bod yr ymdrechion i ddenu clybiau newydd wedi bod yn ofer, ac nad
oedd yr un cais wedi ei dderbyn.
Cafwyd cadarnhad bod
Cymdeithas Pel-droed Arfordir y Gogledd (NWCFA) yn gosod Cynghrair Gwynedd
ymhlith y cystadlaethau hŷn ac o’r herwydd ni fyddai clybiau’r
gynghrair yn cael cymryd rhan mwyach yn y Cwpan Iau (Junior Cup).
Mewn ymateb i holiadur
a dderbyniwyd oddi wrth CP-DC (FAW) roedd y pwyllgor yn ffafrio cadw at y drefn
bresennol a chael egwyl dros yr haf.
Awst 13, 1984 – cyfarfod ym Mhlas Menai, ger
Caernarfon
Yr is-gadeirydd James
Foulkes yn cadeirio.
O gofio bod Amaturiaid
Llandudno a Menai Bridge Tigers wedi ymddiswyddo o’r gynghrair gofynwyd
am farn y clybiau oedd yn weddill ynglŷn â dyfodol y gynghrair.
Nid oedd clybiau
Llanfairpwll na’r Felinheli yn fodlon cymryd rhan mewn cynghrair gyda cyn
lleied â 6 chlwb gan nad oeddynt am chwarae yn erbyn yr un clwb sawl
gwaith mewn tymor. Serch hynny
roedd y clybiau eraill am barhau mewn cynghrair llai gyda’r gobaith y
daethai mwy o glybiau i ymaelodi yn y dyfodol. Nid oeddent am weld llwyddiant y tymor
agoriadol yn mynd yn ffliwt.
Roedd siom bod y
Cynghrair Undebol (Welsh Alliance) wedi derbyn clybiau yn uniongyrchol
o’r is-gynghreiriau; ni ddylai unrhyw glwb ennill dyrchafiad ond trwy
Cynghreiriau Gwynedd a Chlwyd.
Gofynwyd i
gynrychiolwyr clybiau Llanfairpwll a’r Felinheli ail-ystyried eu
penderfyniad i beidio a chymryd rhan yng nghynghrair Gwynedd gyda chwe chlwb yn
unig yn aelodau.
Awst 21, 1984 – cyfarfod arbennig ym Mhlas Menai, ger
Caernarfon
Clybiau Llanfairpwll
a’r Felinheli yn cadarnhau nad oeddent am gymryd rhan mewn cynghrair gyda
llai na 7 clwb
Penderfynwyd y dylai
pob clwb sy’n aelodau o Gynghrair Gwynedd ymaelodi a chynghrair arall,
ond y byddai pob clwb yn parhau i gystadlu am Darian Eryri ac am Gwpan Gwynedd.
Roedd rhai
cynrychiolwyr o’r farn bod y gynghrair wedi gosod safonau rhy aruchel
o lawer ac mai camgymeriad oedd
gwrthod cais CPD Machno oherwydd safon eu cyfleusterau.
Mehefin 12, 1985 – pwyllgor rheoli ym Mhlas Menai, ger
Caernarfon
Roedd swyddogion y
Gynghrair wedi cwrdd â chadeiryddion ac ysgrifenyddion yr is-gynghreiriau
ym Mhlas Menai ar 20 Mawrth, 1985.
Bryd hynny cytunwyd yn unfrydol y dylid estyn gwahoddiad i nifer o
glybiau i ymaelodi â chynghrair Gwynedd. Serch hynny 5 clwb yn unig oedd wedi
rhoi ymrwymiad pendant i ymaelodi ar gyfer tymor 1985-86. Penderfynwyd felly peidio cynnal
Cynghrair Gwynedd yn 1985-86.
Mehefin 3, 1986 -
pwyllgor rheoli ym Mhlas Menai, ger Caernarfon
Cafwyd adroddiad ar y
sefyllfa ddiweddara o ran denu clybiau newydd. Yn sgîl hyn penderfynwyd
ail-ffurfio’r gynghrair ar gyfer tymor 1986-87 gyda’r clybiau a
ganlyn yn aelodau: Conwy Unedig,
Harlech, Machno, Prifysgol Bangor, Locomotive Llanberis, Llanerchymedd, Coleg
Normal, Llanrug a Llanfairpwll.
Cafwyd tymor
llwyddiannus ac mae’r gynghrair wedi ffynnu byth ers hynny gyda
phencampwyr yr is-gynghreiriau yn ennill dyrchafiad. Mae tynged y clwb sy’n gorffen y
tymor ar waelod Cynghrair Gwynedd yn ddibynnol ar nifer y clybiau sy’n
weddill yn dilyn symudiadau mewn cynghreiriau eraill.
Ond roedd parhau dan
fantell y Cynghrair Undebol yn dal i beri anfodlonrwydd ymysg y clybiau a
swyddogion Cynghrair Gwynedd. Aeth
pethau i’r pen mewn cyfarfod hanesyddol yn festri Penmachno ar 9
Gorffennaf 1988 pryd pleidleisiodd y clybiau yn unfrydol i dorri cysylltiad
gyda’r Gynghrair Undebol a mabwysiadu statws annibynnol. Ond – nid yn syndod - doedd y
gynghrair Undebol ddim yn barod i roi sêl bendith i’r cam hwn a bu
raid i Gynghrair Gwynedd gyflwyno apêl gerbron
CP-DAGC (NWCFA). Dyfarnodd cyngor llawn CP-DAGC (NWCFA)
ar bleidlais fwrw y Llywydd, Lionel Williams o blaid y Gynghrair Undebol. Yn dilyn hyn penderfynodd Cynghrair
Gwynedd gyflwyno apêl i CP-DC (FAW) ac yn y pen draw, wedi hir drafod
mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Ngwesty’r British ym Mangor, penderfynodd
y corff llywodraethu cenedlaethol bod gan pob cynghrair yr hawl i fod yn
annibynnol. Yn eu tro aeth cynghreiriau
Gwynedd, Môn, Caernarfon a’r cylch a Dyffryn Conwy ati i ymaelodi
yn uniongyrchol â CP-DAGC (NWCFA).
Ers hynny mae
Cynghrair Gwynedd wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi bod yn hynod ffodus
i gael cefnogaeth y noddwyr a
ganlyn: Bragwyr John Smith Tadcaster, Brodyr Cawley, Birmingham Garage Llanrwst,
Carafanau Gwyn Pierce Owen, Western Mail, Copyrite Business Systems, Cyswllt
Busnes Gwynedd, Wyn Burrows, Heritage Homes Cyf. a Chwmni Gwyliau Seren
Arian.