Fforwm Newydd y Gynghrair
Croeso i fforwm Cynghrair Pêl Droed Gwynedd.

Treial yn unig yw’r fforwm newydd yma. Pe bai’n llwyddiannus yna fe fydd yn disodli’r hen lyfr ymwelwyr ar y wefan hon. Fel sy’n hysbys eisoes cafodd yr hen lyfr ymwelwyr ei ddileu oherwydd cam-ddefnyddi gan rai defnyddwyr.

Byddwn yn cadw golwg barcud, a hynny’n feunyddiol, ar y fforwm newydd a byddwn yn delio mewn dull priodol ag unrhyw cam-ddefnydd yn y dyfodol. 
Dileïr pob neges maleisus a chaiff cyfrifon y troseddwyr eu cau. Os bydd y cam-ddefnydd yn digwydd drachefn yna bydd y cyfeiriad IP yn cael ei blocio yn barhaol – gweithred fydd yn rhwystro mynediad i’r fforwm yn y dyfodol.

Felly er budd eich hunain, ac eraill, peidiwch a’i cham-ddefnyddio. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad anweddus na sarhaus a bydd rhaid dod a’r fforwm newydd yma i ben hefyd. 
Diolch am eich cyd-weithrediad a’ch cymorth er sicrhau llwyddiant y fforwm.

- Pwyllgor y Gynghrair